Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
19 Chwefror 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
I ofyn i’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynlluniau ar gyfer toriadau i swyddi a chyrsiau ym Mhrifysgol De Cymru?
I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pam mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £800,000 yn llai ar sicrhau gwaddol o Euro Merched 2025 UEFA o gymharu a’r gwariant ar Gwpan y Byd y dynion FIFA 2022?
(5 munud)
(0 munud)
(60 munud)
NDM8827 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol Nyrsio Cymru, Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru.
2. Yn gresynu bod pobl yn ysbytai Cymru yn cael eu trin mewn amgylchedd nad yw’n ddiogel, yn urddasol nac yn dderbyniol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu wyth argymhelliad yr adroddiad yn llawn.
Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) yr adroddiad Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru a’i argymhellion; a
b) nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo rhoi gofal neu driniaeth reolaidd i bobl mewn amgylcheddau anghlinigol neu anaddas.
2. Yn cydnabod bod adegau pan fo’r GIG yn wynebu pwysau eithriadol, a all olygu bod pobl weithiau'n aros am amser hirach mewn rhannau o’r system ysbytai.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda'r GIG ac awdurdodau lleol i wella’r sefyllfa o ran rhyddhau pobl o'r ysbyty yn amserol ac i gefnogi gwasanaethau gofal cymunedol uwch i ddarparu dewisiadau amgen yn lle mynd i'r ysbyty lle bynnag y bo modd.
Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru
(60 munud)
NDM8830 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ailddatgan:
a) condemniad y Senedd o ymosodiadau Hamas ar sifiliaid Israel ar 7 Hydref 2023 ac ymateb milwrol Israel, sydd wedi arwain at farwolaethau mwy na 60,000 o bobl Palesteina ac wedi golygu bod angen cymorth dyngarol brys ar filiynau o sifiliaid yn Gaza yn groes i gyfraith ryngwladol; a
b) cefnogaeth y Senedd ar gyfer cadoediad parhaol, mynediad llawn i sefydliadau dyngarol, dychwelyd gwystlon a charcharorion, a heddwch cyfiawn a pharhaol drwy ddatrysiad dwy wladwriaeth.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU:
a) i gefnogi gwaith y Llys Troseddol Rhyngwladol wrth ddwyn i gyfrif arweinwyr Israel a Hamas sydd wedi eu cyhuddo o gyflawni troseddau rhyfel;
b) i gondemnio fel glanhau ethnig gynigion yr Arlywydd Trump i ddiboblogi Gaza; ac
c) i atal yr holl allforion arfau i Israel yn unol â chyfraith ryngwladol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i adolygu trefniadau caffael a buddsoddiadau’r sector cyhoeddus i sicrhau bod safonau moesegol yn cael eu cynnal;
b) i ymrwymo rhagor o gefnogaeth ddyngarol i Gaza; ac
c) i gefnogi cymunedau yng Nghymru sydd â chysylltiadau â Phalesteina ac Israel.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at farwolaethau sifiliaid diniwed Israel a Phalesteina a'r effaith ddynol ddinistriol o ganlyniad i'r gwrthdaro yn Gaza yn dilyn ymosodiadau terfysgol dan arweiniad Hamas a chymryd gwystlon ar 7 Hydref 2023.
2. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau bod cymorth dyngarol yn cael ei ddarparu ar frys i'r rhai mewn angen.
3. Yn ailddatgan cefnogaeth y Senedd i ryddhau'r holl wystlon sy'n weddill, sicrhau cadoediad parhaol, a chael datrysiad ateb dwy wladwriaeth er mwyn sicrhau heddwch parhaol yn y rhanbarth.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
safbwynt llywodraeth y DU bod rhaid i sifiliaid Palesteina allu dychwelyd i’w cartrefi ac ailadeiladu eu bywydau.
Gwelliant 3 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Gwelliant 4 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
i gefnogi rheolaeth y gyfraith a gwaith y Llys Troseddol Rhyngwladol.
(30 munud)
NDM8826 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus yng nghymunedau ôl-ddiwydiannol Cymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2025